LLWYD, FFOWC (fl. c. 1580-1620), bardd ac ysgwïer

Enw: Ffowc Llwyd
Priod: Alis ferch Ffowc ap Tomas ap Gronw
Rhiant: Sibl Llwyd (née Glyn)
Rhiant: Siôn Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac ysgwïer
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker

Fox Hall, sir Ddinbych; mab Siôn Llwyd a'i wraig (gyntaf), Sibl, ferch Rhisiart Glyn. Priododd Alis ferch Ffowc ap Tomas ap Gronw. Ni wyddys fawr amdano, ac nid erys llawer o'i waith mewn llawysgrifau. Canodd i Syr Siôn Llwyd o Iâl (NLW MS 3057D (962)) ac i Tomas Prys o Blas Iolyn (B.M. Add. MS. 14896 (58)); canodd hefyd gerdd a ddengys gydnabyddiaeth â bywyd Llundain (Jesus Coll. MS. 18 (8)).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.