LLWYD, ROBERT, 'o'r Waun ' (1565 - 1655), clerigwr a llenor

Enw: Robert Llwyd
Dyddiad geni: 1565
Dyddiad marw: 1655
Plentyn: Jane Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Glanmor Williams

Ganwyd yn Sir Gaernarfon. Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, 29 Hydref 1585, a graddiodd yn B.A. 6 Gorffennaf 1588, M.A., 10 Gorffennaf 1591. Bu'n rheithor Helygain (Halkin), 1594-1626, ficer Wrecsam, 1595-1640, ficer y Waun (Chirk), 1615-50, ac yn brebendari Meliden a thrysorydd Llanelwy, 1624-48. Bu hefyd yn rheithor segurswydd Llandysul, Sir Drefaldwyn, 1625; claddwyd ei ferch, Jane, yno, yn 1633. Yr oedd yn un o'r ychydig glerigwyr a amcanai at godi safon grefyddol y Cymry trwy baratoi llenyddiaeth ddefosiynol ar eu cyfer. Cyhoeddodd Pregeth ynghylch Edifeirwch, cyfieithiad o waith Arthur Dent, Presbyteriad Seisnig, yn 1629. Yn 1630, ar gais John Hanmer, esgob Llanelwy cyhoeddodd Llwybr Hyffordd yn cyfarwyddo'r anghyfarwydd i'r nefoedd, etc., cyfieithiad o'r The Plaine Mans Path-way to Heaven gan Dent. Dywedir mai ef hefyd a olygodd ' Feibl Bach ' 1630. Heblaw cyfieithu ei hun, bu'n athro i Rowland Vaughan. Difuddiwyd ef o ficeriaeth y Waun gan gomisiynwyr y Werinlywodraeth yn 1650, ond cafodd gadw £20 y flwyddyn o incwm y fywoliaeth. Bu farw yn 1655.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.