LLYWELYN FYCHAN ap LLYWELYN ab OWEN FYCHAN (bu farw c. 1277), arglwydd Mechain

Enw: Llywelyn Fychan ap Llywelyn ab Owen Fychan
Dyddiad marw: c. 1277
Plentyn: Maredudd ap Llywelyn Fychan
Plentyn: Gruffydd ap Llywelyn Fychan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd Mechain
Maes gweithgaredd: Perchnogaeth Tir; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Thomas Jones Pierce

Dilynodd ef a'i frodyr, Maredudd ac Owain, eu tad fel cyd-arglwyddi Mechain rywbryd cyn 1241. Er nad ydoedd sicrwydd ynghylch ei ymlyniad wrth orsedd Gwynedd ym mlynyddoedd cyntaf Dafydd II, yr oedd ymhlith pleidwyr Dafydd yn 1245; yn ddiweddarach yr oedd hefyd ymysg penaethiaid fasal Cymreig Llywelyn II. Bu farw cyn 1277, oblegid yn y flwyddyn honno aeth ei gyfran ym Mechain i ddwylo ei feibion, Gruffydd a Maredudd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.