LOVE, CHRISTOPHER (1618 - 1651), gweinidog Presbyteraidd

Enw: Christopher Love
Dyddiad geni: 1618
Dyddiad marw: 1651
Rhiant: Christopher Love
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Presbyteraidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganwyd yng Nghaerdydd, yn fab ieuengaf Christopher Love. Priodolai ei dröedigaeth i William Erbery. Anghytunai ei dad â'i ddaliadau crefyddol; a'i fam, gydag Erbery, a dalodd am ei addysg. Bu'n fyfyriwr yn New Inn Hall, Rhydychen; graddiodd B.A. 2 Mai 1639 ac M.A. 26 Mehefin 1642. Treuliodd weddill ei yrfa y tu allan i Gymru. Mabwysiadodd olygiadau Presbyteraidd eithafol. Yn gyntaf bu'n gaplan teuluol i'r siryf Warner yn Llundain; yna'n ddarlithydd yn eglwys S. Ann, Aldersgate. Bu'n aflwyddiannus yn ei ymgais i gael ei ordeinio gan Bresbyteriaid Sgotland, dychwelodd i Loegr yn 1641, a charcharwyd ef yn Newcastle am ymosod ar y Llyfr Gweddi Gyffredin. Symudwyd ef i Lundain a'i brofi yn llys y King's Bench, ond fe'i cafwyd yn ddieuog. Yn y Rhyfel Cartrefol bu'n gaplan gyda chatrawd Venn. Pregethodd o flaen y Senedd, 25 Tachwedd 1645. Yn 1647 yr oedd yn weinidog S. Ann, Aldersgate, ac yn ddiweddarach yn S. Lawrence Jewry. O 1648 yr oedd yn weinidog S. Bartholomew, Exchange. Cymerwyd ef i'r ddalfa' 14 Mai 1651 a'i gyhuddo o gynllwyno yn erbyn y Weriniaeth trwy ohebu â'r alltud Siarl Stuart. Diweddodd y prawf ar 5 Gorffennaf a dyfarnwyd ef i'w ddienyddio. Dienyddiwyd ef ar Tower Hill 22 Awst 1651, ac fe'i claddwyd yn eglwys S. Lawrence.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.