MATTHEWS, MARMADUKE (1606-1683?), gweinidog a drowyd allan

Enw: Marmaduke Matthews
Dyddiad geni: 1606
Dyddiad marw: 1683?
Plentyn: Mordecai Matthews
Plentyn: Manasseh Matthews
Plentyn: Lemuel Matthews
Rhiant: Mary Johnes
Rhiant: Matthew Johnes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a drowyd allan
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Tudur Jones

Ganwyd yn Abertawe, 1606, yn fab i Matthew Johnes, Nydfywch, Llangyfelach, a Mary ei wraig. Derbyniwyd ef yn All Souls, Rhydychen, 20 Chwefror 1623/4, a graddiodd yn B.A. 25 Chwefror 1624/5 ac yn M.A. 5 Gorffennaf 1627 (Foster, Alumni Oxonienses). Yn 1636 yr oedd yn ficer Penmain yng Ngwyr, a dangosodd dueddiadau Piwritanaidd annerbyniol gan esgob Tyddewi. Cychwynnwyd achos yn ei erbyn yn Llys yr Uchel Gomisiwn, ond ymfudodd ef i'r America ym 1638, a bu'n weinidog Yarmouth (1640) a mannau eraill yn New England. Dychwelodd yn 1654 ar gais y cyrnol Philip Jones, a daeth yn weinidog S. John, Abertawe. Fe'i trowyd allan yn 1662. Tan yr ' Act of Indulgence ' cymerodd drwydded i bregethu, gan ei alw ei hun yn Annibynnwr. Bu farw tua 1683. Efe oedd awdur The Messiah Magnified (London, 1659) a The Reconciling Remonstrance (London, c. 1670).

Mab iddo oedd LEMUEL MATTHEWS (1644 - 1705), archddiacon Down. Ymaelododd yn y brifysgol o Goleg All Souls, Rhydychen, 25 Mai 1661, ac wedyn daeth yn gaplan i Jeremy Taylor, esgob Down. Gwnaed ef yn archddiacon Down 2 Tachwedd 1674, ac fe'i hapwyntiwyd yn ganghellor Down a Connor yn 1690. Amheuwyd ei fod yn euog o droseddiadau eglwysig, a diswyddwyd ef gan gomisiwn brenhinol. Bu farw cyn i'w apeliadau mynych ddwyn unrhyw ffrwyth.

Gwyddom fod ganddo ddau fab arall, sef (1) MANASSEH, ganwyd yn Yarmouth (N.E.), a adawodd America ar adeg (neu wedi) marw ei dad, a aeth i Goleg Iesu yn Rhydychen (ni raddiodd), a gydymffurfiodd ac a ddaeth yn rheithor Portheynon ac wedyn (1670) yn ficer Abertawe, a (2) MORDECAI, ganwyd c. 1640 yn Yarmouth, aeth i Harvard (1655) a graddiodd yno; daeth yntau i Gymru, a phenodwyd ef gan y Profwyr yn ficer Llancarfan; trowyd ef allan yn 1660, ond cydymffurfiodd wedyn, ac yn 1661 cafodd ficeriaeth Reynoldston (A.H.D. yn Bulletin of the Board of Celtic Studies, xvi, 30-7). Bu farw Mehefin 1702.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.