MEYLER, JAMES (1761 - 1825), gweinidog Annibynnol

Enw: James Meyler
Dyddiad geni: 1761
Dyddiad marw: 1825
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn 1761, ym Mhenysgwarn, Llanwnda, sir Benfro. Cafodd addysg dda yn ei ieuenctid. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd i gyfreithiwr. Daeth yn aelod yn eglwys Rhos-y-caerau ac yno y dechreuodd bregethu. Bu yn athrofa Wrecsam dan Jenkin Lewis. Wedi gorffen ei gwrs yno cafodd alwad o'i fam-eglwys, sef Rhos-y-caerau; urddwyd ef yno 20 Hydref 1795. Cymerth ran flaenllaw, gydag eraill, yn sefydlu achosion Saesneg yn rhannau Seisnig Sir Benfro. Ar gyfrif ei wybodaeth o'r gyfraith a'i allu arbennig i ddadlau achosion dioddefwyr, cyfrifid ef yn arweinydd doeth mewn byd ac eglwys. Yr oedd yn ŵr diwylliedig ei feddwl, aeddfed a diogel ei farn, ac yn bregethwr a edmygid yn fawr. Bu farw yn 1825 yn 64 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.