Ganwyd yn Llanelli 7 Gorffennaf 1842. Bedyddiwyd ef yn eglwys Fedyddiedig Penuel, Cwmafan, ac yn ddiweddarach ymaelododd yn y gangen newydd yn Nhabor a'i ethol yn ddiacon yno. Canai yn bennaf ar destunau Beiblaidd a moesol. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonol cynnar mewn cyfrol o'r enw Fy Ngwanwyn (Aberdâr 1873), a gyflwynwyd i'w fam Margaret Michael, ac ymddangosodd wedi hynny eiriau Cymraeg Ruth a Naomi … A Cantata (Cwmavon, 1876), a Gwaredigaeth Pedr o'r Carchar (3ydd arg., Cwmafon, 1885; arg. 1af, 1879; ail arg., 1880). At hyn, cyhoeddodd gyda Llewelyn Griffiths ('Glan Afan') ddau ddetholiad o farddoniaeth beirdd cyfoes dan y teitlau Blodeu'r Beirdd (Cwmafon, 1871) ac Oriel y Beirdd (Cwmafon, 1882). Bu farw 11 Awst 1913, gan adael un ferch a phedwar mab. Nai iddo oedd Thomas Morgan ('Afanwyson'). Na chymysger ef â DAVID MICHAEL (1785 - 1860?), telynor ym Merthyr Tydfil (Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig; Llyfr Cerdd Dannau).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.