Ganwyd yng Nghwmafan, 9 Mawrth 1850, yn fab i Walter a Jane Morgan ac yn nai i David Michael ('Dewi Afan '). Derbyniwyd i Goleg Pontypŵl yn 1875 a'i ordeinio yng Nghaersalem, Dowlais, 1878. Symudodd yn 1895 i Ainon, Caerdydd, lle y dewiswyd ef gyda'r athro Thomas Powel i ad-drefnu llyfrgell Salisbury yng Ngholeg y Brifysgol yno. Oddi yno, yn 1900, aeth i Horeb, Sgiwen, lle yr arhosodd hyd ei ymddeol ar ben hanner canrif o weinidogaeth. Bu farw 27 Awst 1939.
Bu'n amlwg ym mywyd ei enwad - yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru (1927), llywydd cymanfa dwyrain Morgannwg (1918), ac yn gydolygydd Y Bedyddiwr Bach, 1882, a'r Heuwr, 1890. Bu hefyd yn ysgrifennydd Cymdeithas Ddirwestol De Cymru am 30 mlynedd hyd 1920. Eithr cofir ef yn bennaf am y doreth o lyfrau a thraethodau eisteddfodol a gyhoeddodd, yn arbennig ei gasgliadau o enwau lleoedd a bywgraffiadau, megis Cofiant y Parch. Nathaniel Thomas, Caerdydd , 1900; The Place-Names of Wales, 1887, 1912; Glamorganshire Place-Names, 1901; Enwogion Cymreig, 1700-1900 , 1907; Cofiant y Parch. J. Rhys Morgan, D.D. (Lleurwg) , 1908 (gyda D. B. Richards); Y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd George, A.S., 1910; a The Life and Work of the Rev. Thomas Thomas, D.D., 1925.
Priododd ddwywaith, yr eiltro yn 1888 â merch D. Williams, gweinidog Salem, Meidrym, a ganed iddo ddau fab a thair merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.