MILLS, EDWARD (1802 - 1865), darlithiwr ac ysgrifennwr ar wyddoniaeth

Enw: Edward Mills
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1865
Rhiant: Mary Mills
Rhiant: Edward Mills
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: darlithiwr ac ysgrifennwr ar wyddoniaeth
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Y Gofod a Hedfan
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1802, yn fab i Edward a Mary Mills o Lanidloes ac yn ŵyr i Henry Mills. Cynlluniodd 'orrery' (dyfais i ddangos symudiadau'r gyfundrefn heulog), a theithiodd yma a thraw yng Nghymru gyda hi, gan ddarlithio ar seryddiaeth. Yn 1850, cyhoeddodd Y Darluniadur Anianyddol, llyfr ar seryddiaeth a daearyddiaeth, gyda darluniau a ysgythrwyd ar bren ganddo ef ei hunan a'i fab. Bu farw yn Ninbych yn 1865, yn 63 oed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.