Ganwyd 6 Ebrill 1801 yn y Felindre gerllaw Llanymddyfri. Ymaelododd yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt, a graddiodd yn bumed yn y dosbarth blaenaf mewn mathemateg yn 1826; etholwyd ef yn gymrawd o'i goleg yn 1829, ac yn athro mwyneg yn y brifysgol yn 1832. Daliodd y swydd honno am y cyfnod maith o 48 mlynedd - rhyngddo ef a'i olynydd W. J. Lewis bu dau Gymro (oblegid Cymraes oedd mam Miller) yn athrawon mwyneg yng Nghaergrawnt am 94 mlynedd. Y mae ysgrif lawn arno yn y D.N.B., a hefyd (gyda rhestr faith o'i gyfraniadau i'w bwnc) yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1932-3. Bu farw 20 Mai 1880.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Gorfu iddo gymryd gradd M.D. yn 1841 gan fod stadudau'r coleg yn mynnu athrawon yn feddygon neu'n glerigwyr. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1838 a bu'n ysgrifennydd y Gymdeithas Frenhinol yn 1856. Bu'n weithgar gyda'r comisiwn a fu'n ystyried safonau mesurau a phwysau'r Deyrnas yn 1843 a bu'n aelod o'r Commission internationale du Mètre yn 1870.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.