Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd yn 1757 yn amaethdy Tanrallt, gerllaw Llanidloes. Pan oedd yn ddyn ieuanc tynnodd ei lais sylw Thomas Charles o'r Bala pan oedd hwnnw ar ymweliad â Bethel, capel y Methodistiaid Calfinaidd, Llanidloes - ymunodd Mills â'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1780 - ac ar awgrym Charles rhoes y cyfarfod misol ofal canu cynulleidfaol Methodistiaid yr ardal ar ysgwyddau Mills, serch fod newydd-deb y syniad, ieuenctid Mills, a'i fod yn abl i ganu dau neu dri o offerynnau cerdd, yn rhwystr yng ngolwg rhai o'r blaenoriaid mwyaf llym a chul. Bu'n briod ddwywaith. Meibion o'i briodas gyntaf oedd (1) Edward Mills, tad John Mills ac Edward Mills; (2) James Mills. Mab o'r ail briodas oedd Richard Mills. Bu HENRY MILLS farw 28 Awst 1820.
Parhawyd ei waith cerddorol gan ei fab JAMES MILLS (1790 - 1844); ganwyd yn 1790 ym Melin-y-wern, gerllaw Llanidloes. Cafodd ei alluoedd cerddorol ef gyfle da yn y gymdeithas gerddorol a sefydlwyd yn Bethel yn 1834 gyda'r amcan o wella safon caniadaeth gynulleidfaol; cyfarfyddai'r gymdeithas ar y Suliau, ac yr oedd yn perthyn iddi hefyd ddosbarth-noson-waith lle y dysgid elfennau cerddoriaeth gan tua 60 neu 70 o bobl ieuanc. Cyfansoddodd JAMES MILLS lawer o anthemau a thonau - gweler Y Cerddor Eglwysig a Caniadau Seion - a chadwodd ei dôn a elwir ' Hosannah ' ei lle mewn casgliadau diweddarach. Bu farw yn y flwyddyn 1844.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.