MORGAN, HECTOR DAVIES (1785 - 1850), clerigwr ac awdur gweithiau diwinyddol

Enw: Hector Davies Morgan
Dyddiad geni: 1785
Dyddiad marw: 1850
Priod: Christiana Morgan
Rhiant: Sophia Davies
Rhiant: Hector Davies
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr ac awdur gweithiau diwinyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

unig fab Hector Davies a Sophia ei wraig, ganwyd (yn Llundain ?) yn 1785. Wedi marw ei daid yn 1800, cymerodd enw ac arfau Morgan, a ddaethai i ran ei daid ar ei (ail) briodas â Christiana, nith ac etifeddes John Morgan o Aberteifi (1686 - 1763?). Bu dan addysg yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, a graddio B.A. yn 1806 ac M.A. yn 1815. Am 37 mlynedd bu'n gurad Castle Hedingham yn Essex; yn 1846 ymneilltuodd i Aberteifi a bu farw yno 23 Rhagfyr 1850.

Ar bwys dau draethawd diwinyddol (un ohonynt ar fedydd) enillodd wobr o £50 a gynigiwyd gan y Gymdeithas er Hyrwyddo Gwybodaeth Gristnogol ac Undeb Eglwysig yn esgobaeth Tyddewi; ac yn 1826 cyhoeddodd waith ar briodas ac ysgariad, a ddisgrifir fel cynnyrch darllen eang a manwl a gwybodaeth o'r gyfraith. Yn 1819 bu'n ' Bampton Lecturer,' ac yn 1820 penodwyd ef gan yr esgob Burgess o Dyddewi yn brebendari Trallwng yng Ngholeg Crist, Aberhonddu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.