MORGAN, EDWARD (1817 - 1871), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Edward Morgan
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1871
Priod: Jennette Griffith Morgan (née Humphreys)
Plentyn: Richard Humphreys Morgan
Rhiant: Edward Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Edward Morgan Humphreys

Ganwyd ym mhentre Cwmbelan, ger Llanidloes, 20 Medi 1817, mab Edward Morgan, amaethwr a gwneuthurwr gwlanenni. Wedi bod am beth amser yn gynorthwywr mewn siopau yn Llanidloes, aeth i Goleg y Bala yn 1839, ac oddi yno, yn Ionawr 1840, i Ddyffryn Ardudwy i gadw ysgol. Yno y dechreuodd bregethu yn 1841. Dychwelodd i'r Bala yn 1842; bu yn y Dyffryn drachefn o 1843 hyd 1845, ac yn y flwyddyn honno aeth i Brifysgol Edinburgh a'r Coleg Newydd yno. Yn 1847 ordeiniwyd ef ac aeth yn weinidog i Ddolgellau. Ar 19 Gorffennaf 1849 priododd Jennette Griffith Humphreys, merch y Parch. Richard Humphreys, Dyffryn Ardudwy, ac aeth i'r Dyffryn i fyw. Yno y treuliodd weddill ei oes. Yr oedd erbyn hyn yn bregethwr poblogaidd iawn a daeth yn arweinydd yn ei gyfundeb, gan weithio'n galed i sefydlu'r fugeiliaeth eglwysig ac o blaid addysg y weinidogaeth. Yn 1856 penodwyd ef yn oruchwyliwr cronfa at Goleg y Bala; rhwng hynny ac 1870 llwyddodd i gasglu cyfanswm o tua £30,000. Bu'n ysgrifennu i'r Traethodydd o 1846; bu'n olygydd Y Methodist o 1854 hyd 1856, ac ysgrifennodd rai erthyglau i'r Gwyddoniadur. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1865 ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1870. Bu farw 9 Mai 1871. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o'i bregethau, wedi eu golygu gan Dr. Owen Thomas, yn 1876 a 1882.' Bu farw ei briod 27 Mehefin 1888. Eu mab hynaf oedd y Parch. Richard Humphreys Morgan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.