Ganwyd yn Lluesty, Dyffryn Ardudwy, 14 Awst 1850, mab y Parch. Edward Morgan. Bu yn academi Holt, mewn ysgol yn Hastings, yng Ngholeg y Bala (1865), a Phrifysgol Edinburgh a'r Coleg Newydd yno. Graddiodd yn M.A. Aeth yn weinidog ar eglwys Caersalem, Abermaw, ac ordeiniwyd ef 5 Medi 1877. Yn 1888 aeth yn weinidog yr eglwys Saesneg ym Mhorthaethwy. Penodwyd ef i gasglu cronfa at Goleg y Bala yn 1892 ac ymneilltuodd o waith bugeiliol a mynd i fyw i Fangor. Bu'n ysgrifennydd pwyllgor Coleg y Bala o 1886 hyd 1899. Bu farw ym Mangor 31 Mawrth 1899 a chladdwyd ef yn Nhywyn, Meirionnydd.
Priododd, 23 Hydref 1879, Barbara Elizabeth, merch Griffith Jones, Gwyddelfynydd, ger Tywyn, ac wyres i Richard Jones, y Wern. Ni bu ganddynt blant. Ysgrifennodd i'r Traethodydd, Y Geninen, Y Drysorfa, a chyhoeddiadau eraill ar bynciau llenyddol a gwleidyddol, a chymerodd ran amlwg yn yr ymdrech o blaid Datgysylltiad. O Fehefin 1889 hyd Ebrill 1891 bu'n golygu Cymru Fydd gydag O. M. Edwards. Cyfaddasodd gyfundrefn lawfer Pitman i'r Gymraeg yn Phonographia, 1876 (ail argraffiad 1878).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.