o Landeilo-Talybont (Pontardulais); dywedir ei eni yn 1621. Yr oedd yn bresennol yng nghymanfa eglwysi bore Bedyddwyr Cymru yn 1653 a 1654, fel cennad o Gaerfyrddin, ac yn arwyddo'r penderfyniadau, ond nid oes sicrwydd ei fod yn weinidog yno. Chwalwyd yr eglwys honno yn erledigaeth yr Adferiad, a daeth yntau'n gyd-weinidog â Lewis Thomas, y Mŵr, ar Fedyddwyr Ilston, gan ofalu'n bennaf am adran y gorllewin, yn arbennig yn ardaloedd Llangennech a Llannon, lle y treuliodd weddill ei oes. Ceir cyfeiriadau ato yn 1672 yn codi trwyddedau addoli ar dai byw yno, ac yn 1684 yn derbyn gwarant, gyda'i fab David o Lynllwchwr ac eraill o ardaloedd Abertawe a Llangyfelach, i ymddangos gerbron y Sesiwn Fawr am wrthod mynychu cyfarfodydd yr eglwysi plwyf. Yr oedd yn gennad hefyd yng nghymanfa Llundain yn 1689. Ni wyddys dydd ei farw, ond fe'i claddwyd yn Llandeilo-Talybont ar 5 Ebrill 1710. Bu'n cadw ysgol yn ei gartref, a dywedir ei fod yn brydydd. Ganed iddo chwech o blant, gan gynnwys David; John, a fu farw ar gychwyn ei weinidogaeth yn Warwick, 12 Mai 1703, yn 24 oed; Hannah, gwraig Arthur Melchior, y ceir ei henw hi a'i gŵr ymhlith yr aelodau a ollyngwyd o Abertawe i Bennsylfania yn 1710; a Robert (neu Morgan) y dywedir ei fod yn ysgolfeistr yn Horsley Down, Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.