tybir ei eni yn 1797, yn Nhan-y-bryn, Llanfair Caereinion, Sir Drefaldwyn, ac efallai mai ef yw'r David, mab David a Margaret Morris, o ardal Heniarth, a fedyddiwyd yn eglwys y plwyf 2 Gorffennaf 1797. Bu'n wehydd am gyfran o'i oes ond yn ddiweddarach trodd at arddio. ' Y Gerddi ' oedd hen enw Tan-y-bryn, ac yno y triniai David Morris ei ardd gan werthu'r cynnyrch i'r cymdogion ac yn y marchnadoedd cyfagos. Yr oedd yn hyddysg yn hanes Cymru ac yn ei barddoniaeth, a medrai ddarnau maith ar ei gof. Yr oedd yn englynwr pur fedrus ei hun, ac yn eisteddfod Llanfair Caereinion, ddydd Nadolig 1856, ef, allan o dros 40, a enillodd am englyn i'r ' Gwynt.' Dywedir y byddai ' Gwallter Mechain ' a Robert Jones ('Bardd Mawddach') yn cywiro ei gyfansoddiadau cynnar iddo. Claddwyd ef ym mynwent Llanfair Caereinion, 14 Ebrill 1868.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.