Fe'i prentisiwyd yn grydd, a threuliodd y rhan helaethaf o'i fywyd yn Nhredegar. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth a rhyddiaith, ac yr oedd yn un o aelodau blaenllaw Cymreigyddion y Fenni. Bu canu mawr ar rai o'i faledi, a hyd heddiw y mae bri ar ei gân, ' Can mlynedd i nawr.' Yn 1862 gwobrwywyd ef yn eisteddfod Cymmrodorion Tredegar am draethawd ar ' Hanes Tredegar ' a gyhoeddwyd yn 1868. Treuliodd ei flynyddoedd olaf yn nhloty Tredegar, a thra bu yno gyrrai arglwyddes Llanover bunt yn galennig iddo bob Calan. Yr oedd heibio'r 80 mlwydd oed pan fu farw.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.