Ganwyd yn Rugby, graddiodd yn 1882 o Goleg Magdalen, Rhydychen (D.Litt. 1905), bu'n athro hyd 1923 yn y Bedford Grammar School, a bu farw 8 Tachwedd 1933. Nid oedd yn Gymro, ond rhoddir ei le iddo yma ar bwys ei brif waith, The Welsh Wars of Edward I, 1901, sy'n adrodd hanes rhyfeloedd Llywelyn ap Gruffudd â'r brenin, a'r brwydro pellach yng Nghymru hyd 1295, gyda rhagdraeth ar y rhyfeloedd rhwng y Normaniaid a'r Cymry cyn oes Llywelyn. Delia'r gwaith nid yn unig â'r brwydro ond hefyd â'r dulliau o gasglu milwyr, y cyllid, y cad-ddarpar, etc.; a seiliwyd ef nid ar groniclau ond ar ddogfennau a chyfrifon swyddogol. Serch i Morris (gweler E.H.R., xxxix a xlvi) gamleoli brwydr olaf Madog ap Llywelyn, erys gwerth ei lyfr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.