MORRIS, ROGER, Coed-y-talwrn, plwyf Llanfair Dyffryn Clwyd (fl. 1590), copïydd llawysgrifau

Enw: Roger Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: copïydd llawysgrifau
Cartref: Coed-y-talwrn
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan David Jones

Ni wyddys ddim o'i hanes personol. Yr oedd ganddo lawysgrifen arbennig ddestlus, a chafodd gyfle i gopïo rhai o hen lawysgrifau Cymru fel Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch, drwy gyfeillgarwch â Siaspar Gruffudd efallai. Yr oedd ganddo ddiddordebau eang, ac erys o'i waith gasgliadau o fucheddau'r saint (Llanstephan MS 34 ), llysieulyfr (NLW MS 4581B ), testunau herodrol, achyddol, a hanesyddol yn Gymraeg a Saesneg (Mostyn 113, Peniarth MS 168 ), barddoniaeth (Llanstephan MS 9 , NLW MS 1553A ), y Mabinogion a rhai o'r rhamantau (Mostyn 135), gramadegau (Peniarth MS 169 ), ac ystorïau a mangofion (Llanwrin 1). Y mae'n amlwg oddi wrth gyfeiriadau gan gopïwyr eraill nad yw'r cyfan o'i waith wedi ei gadw. Nodwedd arbennig yn ei ysgrifennu ydoedd iddo fabwysiadu orgraff Dr. Gruffudd Robert a defnyddio pwyntiau o dan lythrennau yn lle eu dyblu. Yr oedd nifer o'i lawysgrifau yn eiddo Thomas Evans, Hendreforfudd, erbyn 1607.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.