Ganwyd 22 Ebrill 1828 yn New Hall, Llanfihangel-yng-Ngheri (' Kerry '). Addysgwyd ef ar gyfer urddau Anglicanaidd, ond aeth i America yn 1851. Wedi dychwelyd, ymunodd ar y dechrau â'i dad (o'r un enw) yn ei fusnes gwlân yn y Drenewydd; ond yn ddiweddarach bu ganddo fusnes glo a chalch yn y Trallwng ac yno bu'n flaenllaw ym mywyd cyhoeddus ei dref. Eithr aeth hynafiaethau â mwyfwy o'i fryd, ac yn 1881 symudodd i Lundain, i fyw ar drothwy'r cronfeydd o ddogfennau hanesyddol. Yno y bu farw, 24 Gorffennaf 1893, ond yn y Drenewydd y claddwyd ef. Yr oedd yn un o aelodau cyntaf y 'Powysland Club,' a chyfrannodd liaws o ysgrifau pwysig i'r Mont. Coll., y Bye-Gones, a chyfnodolion cyffelyb. Ym marn ei gyd-drefwr a'i gyd- hynafiaethydd Richard Williams yr oedd ei wybodaeth o hanes Sir Drefaldwyn yn 'perfectly unique.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.