NICHOLLS, ERITH GWYN (1875 - 1939), chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: Erith Gwyn Nicholls
Dyddiad geni: 1875
Dyddiad marw: 1939
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

- ar y cyfan, efallai'r enwocaf o chwaraewyr Rygbi Cymru, serch mai yng Nghaerloyw y ganwyd ef, yn 1875. Yn llanc, chwaraeodd fel cefnwr a hanerwr dros glwb yr ' Harlequins ' (a ddarfu ers llawer blwyddyn) yng Nghaerdydd; ar ddydd Calan 1894 yr ymddangosodd gyntaf yn nhîm Caerdydd (er ei fod cyn hynny wedi chwarae dros sir Gaerloyw), fel cefnwr; chwaraeodd deirgwaith dros Gaerdydd fel cefnwr cyn symud i'r canol - fel canolwr yr enillodd ei fri mawr. Rhwng 1896 a 1906, cynrychiolodd Gymru 24 o weithiau, a bu'n gapten Cymru sawl gwaith - y tro enwocaf oedd pan drechodd Cymru, yng Nghaerdydd yn 1905, dîm (anorchfygedig cyn hynny) New Zealand. Bu'n aelod am sawl tymor o'r pwyllgor a ddewisai'r chwaraewyr dros Gymru; a chyhoeddodd lyfr, The Modern Rugby Game and How to Play It. Yr oedd yn bartner gyda'i gyd-frawd-yng-nghyfraith H. B. Winfield yn ffyrm y ' Victoria Laundries.' Bu farw 24 Mawrth 1939. Y mae clwydydd coffa iddo yn y ' Cardiff Arms Park.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.