WINFIELD, HERBERT BENJAMIN (1879 - 1919), chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: Herbert Benjamin Winfield
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1919
Rhiant: Ben Winfield
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Ganwyd yn Leicester yn 1879, ond symudodd ei rieni i Gaerdydd (yr oedd ei dad yn gychwynnwr amryw olchfeydd dillad yn Neheudir Cymru) pan yr oedd ef yn fachgen. Datblygodd yn un o gefnwyr mwyaf adnabyddus ei wlad, gan chwarae dros Gaerdydd, a 15 o weithiau (rhwng 1903 a 1909) dros Gymru - efe oedd y cefnwr pan drechwyd New Zealand gan Gymru yn 1905, yng Nghaerdydd. Nid ystyrid ef yn llawn cystal 'taclwr' ag ambell gefnwr arall, ond yr oedd hyd ac unionder ei gic yn anarferol. Yr oedd hefyd yn chwaraewr golff o'r radd flaenaf. Aeth i Ffrainc yn 1914 yn y ' Cardiff City Battalion,' yn swyddog. Bu farw 21 Medi 1919 ym Mhorthcawl, mewn damwain fodurol. Yr oedd yn gyd-frawd-yng-nghyfraith ag E. Gwyn Nicholls, ac yn bartner gydag ef mewn golchfa.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.