NICHOLL, Syr JOHN (1759 - 1838)

Enw: John Nicholl
Dyddiad geni: 1759
Dyddiad marw: 1838
Priod: Judy Nicholl (née Birt)
Plentyn: Mary Anne Nicholl
Plentyn: Katherine Luxmore (née Nicholl)
Plentyn: Judy Franks (née Nicholl)
Plentyn: John Nicholl
Rhiant: Elizabeth Nicholl (née Havard)
Rhiant: John Nicholl
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Henry John Randall

Ganwyd 16 Mawrth 1759, ail fab John Nicholl, Llan-maes, aelod o deulu a ymsefydlasai ers hir amser yn Llan-maes a Llanilltyd Fawr, Sir Forgannwg. Cafodd ei addysg yn y Bontfaen a Bryste, ac ymaelododd yn Rhydychen (o Goleg S. Ioan) ar 27 Mehefin 1775. Llwyddodd, ar 6 Ebrill 1785, i ennill gradd D.C.L., y cymhwyster a oedd yn anhepgor er mwyn cael ei dderbyn i'r gorfforaeth gyfyngedig iawn a elwid yn ' Doctor's Commons '; derbyniwyd ef yn ' Advocate ' ynddi ar 3 Tachwedd 1785. Daeth cylch ei ymarfer â'r swydd honno yn eang; dilynodd Syr William Scott (arglwydd Stowell) fel ' King's Advocate ' ar 6 Tachwedd 1798 a chael ei wneuthur yn farchog, yn ôl yr arfer. Etholwyd ef i'r Senedd yn 1802 a pharhaodd i fod yn aelod, dros amrywiol etholaethau, hyd y diddymwyd y Senedd ym mis Rhagfyr 1832, adeg y ' Reform Act ' (1832), pryd yr ymneilltuodd. Yn ystod ei yrfa yn y Senedd yr oedd yn Dori pybyr; gwrthwynebai'n wastad y mesurau i ganiatáu mwy o ryddid i'r Pabyddion ac i ddiwygio'r gyfundrefn etholaethol. Yr ' Ecclesiastical Courts Act,' 1829, oedd ei gyfraniad gweithredol ef i ddeddfwriaeth. Yn 1809 apwyntiwyd Syr John Nicholl yn ' Dean of Arches ' ac yn farnwr llys yr ewyllysiau, Caergaint; derbyniwyd ef hefyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor. Dewiswyd ef yn farnwr Uchel Lys y Morlys yn 1833. Y flwyddyn ganlynol gwnaethpwyd ef yn ficer cyffredinol i archesgob Caergaint a rhoes i fyny swyddi'r ' Dean of Arches ' a barnwr Llys yr Ewyllysiau. Fel barnwr enillodd enw da iawn iddo'i hun ' for inflexible impartiality and great strength and soundness of judgement.' Ceir ei ddyfarniadau yn y reports swyddogol; argraffwyd amryw ohonynt ar wahân hefyd. Tua'r flwyddyn 1803 prynodd stad Merthyr Mawr, gerllaw Penybont-ar-Ogwr, Sir Forgannwg; adeiladodd yno blasty hardd a chynnull yno lyfrgell o tua 30,000 o gyfrolau. Cymerth ran bwysig ym mywyd gwleidyddol ei sir enedigol, a bu'n gefnogydd cyson i Syr Christopher Cole, yr aelod Torïaidd. Yr oedd yn aelod blaenllaw ym mudiad y gwirfoddolwyr yn ystod y rhyfel â Napoleon, a chyrhaeddodd radd lifftenantcyrnol. Bu'n helpu i sefydlu King's College, Llundain. Yr oedd yn F.R.S. (1806) a F.S.A. Priododd Judy, ferch ieuengaf Peter Birt, Wenvoe, ar 8 Medi 1787. Bu farw 26 Awst 1838 ym Merthyr Mawr, gan adael unig fab, John Nicholl, a thair merch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.