Ganwyd 21 Awst 1797, unig fab Syr John Nicholl. Cafodd ei addysg yn Ysgol Westminster ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen lle y cafodd ysgoloriaeth yn 1816. Graddiodd yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron ac, fel ei dad, llwyddodd i gael gradd D.C.L. yn 1825 a'i ethol yn ' Advocate ' yn Doctors' Commons; galwesid yn fargyfreithiwr, o Lincoln's Inn, yn 1824. Etholwyd ef, Rhagfyr 1832, yn aelod dros Gaerdydd yn y Senedd ddiwygiedig gyntaf ar ôl pasio'r ' Reform Act,' a chadwodd y sedd hyd 1852. Daliodd amryw swyddi. Bu'n Arglwydd y Trysorlys am ychydig fisoedd yn 1835, yn ' Master of the Faculties,' ac yn farnwr llys ewyllysiau archesgobaeth Caergaint o 1838 hyd 1841; dewiswyd ef yn ' Judge Advocate-General ' ym mis Medi 1841, pryd y daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor; yr oedd yn ' Ecclesiastical Commissioner ' a daeth yn aelod o'r Bwrdd Masnach ym mis Ionawr 1846. Yn ei sir enedigol daeth yn ddirprwy-raglaw a chafodd ei ddewis yn gadeirydd sesiwn chwarter Morgannwg. Priododd, 14 Rhagfyr 1821, Jane Harriet, ail ferch Thomas Mansel Talbot, Margam. Bu iddo saith o blant, a dilynwyd ef yn y stad gan ei fab hynaf, John Cole Nicholl 1823-1894. Bu farw 27 Ionawr 1853, yn Rhufain. Y mae stad Merthyr Mawr yn parhau ym meddiant disgynnydd uniongyrchol ohono.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.