OLIVER, DAVID (fl. 1785-1814); gweinidog

Enw: David Oliver
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ni wyddom ddim amdano y tu allan i'r blynyddoedd a nodwyd. Ymddengys mai dyn o Gwm Rhondda oedd, o leiaf yr oedd yno pan gychwynnwyd achos y Bedyddwyr Neilltuol yn Ystradyfodwg; bedyddiwyd ef yno yn 1785. Dechreuodd bregethu yn 1786, ac urddwyd ef yn 1789. Pan ymrannodd Bedyddwyr y Deheudir yn 1799, aeth Oliver gyda'r Bedyddwyr Cyffredinol (Arminaidd), a llwyddodd am flwyddyn neu ddwy i feddiannu'r capel (Nebo); ond erbyn 1802 yr oedd nid yn unig yn Armin ond hefyd yn Undodwr. Bu'n weinidog Hen Dŷ Cwrdd Aberdâr o 1803 hyd 1806, ac yna, o 1806 hyd tua diwedd 1814, yn weinidog y Gellionnen. Ymddengys ei enw yn y Monthly Repository yn y blynyddoedd 1807-13, yn adroddiadau cynadleddau'r Bedyddwyr Cyffredinol a'r Undodiaid fel ei gilydd - y cofnod diwethaf amdano yw ei fod i bregethu i gymanfa'r Undodiaid ar 12 Rhagfyr 1813. Ond edrydd Seren Gomer (24 Rhagfyr 1814) hanes ei dderbyn i blith yr Annibynwyr - yr oedd y pryd hynny'n byw yn Llangyfelach. Bu farw rywbryd cyn i David Jones sgrifennu ei Hanes - 'yn lled ddibarch,' meddai'r Bedyddiwr pybyr hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.