Yn ôl Camb. Biog. ac Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen blodeuai yn y cyfnod 1540-70. Y mae'r gosodiad yn Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen ei fod o Faenan, sir Ddinbych, yn awgrymu y gellir ei gysylltu â Dafydd ap Owen, rheithor Nannerch a Llandoged, a ficer Eglwysfach, 1537 (J. E. Griffith, Pedigrees, 196). Cadwyd ychydig gywyddau o'i eiddo yn Peniarth MS 86 , Peniarth MS 112 ; Jesus College MSS. 137-8; Cardiff MSS. 12, 64, 84; Llanstephan MS 156 ; Cwrtmawr MS 5B (i-ii) ; B.M. Add. MSS. 14873-4, 14966, 14969, 15000; NLW MS 670D , NLW MS 834B , NLW MS 1560C , NLW MS 2602B , NLW MS 2603B , NLW MS 2692B , NLW MS 5269B , NLW MS 5283B , NLW MS 5474A (Aberdare 1), NLW MS 6434D , NLW MS 6471B , NLW MS 6681B , NLW MS 8330B . Priodolwyd rhai o'i gywyddau i Ruffudd ap Ieuan ap Llywelyn Fychan a Siôn Tudur.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.