Ganwyd yn 1833, mab i James Owen, amaethwr ym mhlwyf Llandysilio, Sir Drefaldwyn, a ymsefydlodd wedyn yn Llanidloes. Ar ôl cwrs mewn coleg hyfforddiadol, penodwyd Elias Owen yn brifathro Ysgol Genedlaethol Llanllechid. Yma dechreuodd ymddiddori mewn hynafiaethau. Trodd ei sylw at hen olion y plwyf, a chyhoeddodd ffrwyth ei ymchwiliadau yn y North Wales Chronicle a'r Archæologia Cambrensis dan y pennawd ' Arvona Antiqua,' 1866, 1867 (gyda map), 1872. Priododd, yn Llanllechid, â Margaret Pierce. Yn 1871 enillodd radd B.A. yng Ngholeg y Drindod, Dulyn (M.A. 1878). Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1871 (offeiriad 1872) gan esgob Bangor, a daeth yn gurad Llanwnog, Sir Drefaldwyn, hyd 1875, pan symudodd i eglwys y Lân Drindod, Croesoswallt. Y flwyddyn ddilynol penodwyd ef yn arholwr gwybodaeth ysgrythurol yn ysgolion eglwysig esgobaeth Llanelwy, swydd a ddaliodd hyd 1881 pryd y derbyniodd fywoliaeth Efenechtyd ger Rhuthyn. Yn 1892 symudodd i Lanyblodwel lle'r arhosodd hyd ei farwolaeth, 19 Mai 1899, yn 65 oed. Parhaodd yn ddiwyd i astudio hynafiaethau, ac etholwyd ef yn F.S.A. Ysgrifennodd yn helaeth, a chyfrannodd erthyglau i'r Archæologia Cambrensis, yr Antiquary, y Reliquary, y Montgomery Collections, etc. Ei brif waith llenyddol oedd The Old Stone Crosses of the Vale of Clwyd, 1886. Llyfr arall oedd Welsh Folk-Lore , 1896, traethawd arobryn yn eisteddfod genedlaethol Llundain, 1887. Golygodd hefyd, 1895, weithiau Griffith Edwards ('Gutyn Padarn'). Yn ei flynyddoedd olaf casglodd ddefnyddiau, sydd yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol, gogyfer â chyfrol ar ffynhonnau cysegredig Gogledd Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.