OWEN, HUMPHREY (1702 - 1768), llyfrgellydd Bodley, a phennaeth Coleg Iesu, Rhydychen

Enw: Humphrey Owen
Dyddiad geni: 1702
Dyddiad marw: 1768
Rhiant: Humphrey Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llyfrgellydd Bodley, a phennaeth Coleg Iesu, Rhydychen
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn 1702 yn fab i Humphrey Owen, Gwaelod, Nant-y-meichiaid, Meifod; ymaelododd yng Ngholeg Iesu 17 Tachwedd 1718 yn 16 oed; graddiodd yn 1722 (D.D. 1763); etholwyd ef yn gymrawd yn 1725. Cafodd reithoraeth Tredington (Worcs) yn 1744, a daliodd hi hyd 1763, serch ei ethol yn llyfrgellydd Bodley fis Tachwedd 1747. Etholwyd ef yn bennaeth ei goleg fis Mai 1763, a chafodd hefyd gan y coleg reithoraeth Rotherfield-Peppard; ond parhaodd yn ei swydd fel llyfrgellydd. Penododd nifer anarferol o Gymry i swyddi yn Bodley - yn eu plith John Price, ei olynydd. Barn E. G. Hardy amdano fel llyfrgellydd yw ei fod yn ' respectable if not distinguished.' Bu farw 26 Mawrth 1768, a chladdwyd yng nghapel ei goleg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.