OWEN, RICHARD MORGAN (1877 - 1932), chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel hanerwr mewnol

Enw: Richard Morgan Owen
Dyddiad geni: 1877
Dyddiad marw: 1932
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel hanerwr mewnol
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Dyn bychan o gorff, a henaidd iawn ei ymddangosiad, oedd ef, ond yr oedd yn wydn i'w ryfeddu, ac yn feistr ar basio'r bêl ac ar weld ei gyfle o gwmpas y 'scrum' - efallai nad oedd neb a gystadlai ag ef fel hanerwr, yn enwedig yn ei gyfrwystra'n cychwyn ffug-ymosodiadau i gamarwain yr ochr arall. Gyda'i gyd-hanerwr Richard Jones, fe wnaeth Abertawe 'n dîm hynod lwyddiannus yn 1904-5. Chwaraeodd 35 o weithiau dros Gymru, yn gyd-hanerwr â gwŷr fel Richard Jones, W. J. Trew, a Percy Bush; a symudiad a gychwynnodd ef a arweiniodd i'r 'cais' buddugol pan drechodd Cymru dîm New Zealand yng Nghaerdydd yn 1905. Ymestynnodd ei yrfa nodedig fel chwaraewr o 1901 hyd 1910. Trist fu diwedd ei oes; wedi bod am amser yn brynwr a gwerthwr bwydlysiau yn y Mwmbwls, cymerodd dafarn y 'Nag's Head,' Glandŵr (Abertawe), yn 1931, ac yno, ar 27 Chwefror 1932, rhoes derfyn ar ei einioes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.