TREW, WILLIAM JOHN (1878 - 1926), chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Enw: William John Trew
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1926
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

Un o'r canolwyr gorau a chwaraeai dros Gymru ar ddechrau'r 20fed ganrif, ond am gyfnod chwaraeodd fel hanerwr yn bartner â R. M. Owen, a chyda'i gilydd datblygasant dechneg ymosodol a fyddai'n llwyr ddrysu eu gwrthwynebwyr. Trew oedd capten Abertawe pan enillodd Abertawe (Rhagfyr 1912) y fuddugoliaeth ar Dde Affrica. Rhwng 1900 a 1913, bu'n chwarae 19 o weithiau dros Gymru (yn gapten amryw droeon), a thano ef yr enillwyd y ' Goron Driphlyg,' pan gurwyd Iwerddon yn Abertawe, yn 1912. Cadwai Trew y ' Brooklands Hotel ' yn Oxford Street, Abertawe. Bu farw 20 Awst 1926.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.