Ganwyd ym Maes Angharad, Dolgellau, 21 Awst 1792. Derbyniwyd ef yn aelod gan Cadwaladr Jones yn Nolgellau yn 1811. Bu'n cadw ysgol yn y cylch am ysbaid, a symudodd at yr un gorchwyl i Ddinas Mawddwy, lle y dechreuodd bregethu. Yn 1821 urddwyd ef yn weinidog eglwysi Rhesycae a Salem, Sir y Fflint, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Bu farw 13 Hydref 1862, a chladdwyd ef ym mynwent eglwys plwyf Nannerch. Cadwai ysgol ddyddiol yn Rhesycae yn ogystal â gweinidogaethu; llafuriodd yn galed i ddiddyledu capelau a theithiodd lawer i'r amcan hwn. Adnabyddid ef fel ' pregethwr synhwyrol ' a ' Chalfin cymedrol.' Ag ystyried ei anfanteision, llwyddasai i ennill mesur helaeth o ddiwylliant; lluniodd erthyglau lu i'r Dysgedydd a chyhoeddodd Holwyddoreg yr Ymneillduwyr Protestanaidd, gan y Parch. S. Palmer a'i helaethu gan O. Owens, Rhesycae. Cynrychiolai y teip gorau o weinidog cefn gwlad yn yr oes honno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.