JONES, CADWALADR (1783 - 1867), gweinidog gyda'r Annibynwyr a golygydd cyntaf Y Dysgedydd

Enw: Cadwaladr Jones
Dyddiad geni: 1783
Dyddiad marw: 1867
Rhiant: Dorothy Cadwaladr
Rhiant: John Cadwaladr
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr a golygydd cyntaf Y Dysgedydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd Mai 1783 yn y Deildre Uchaf, Llanuwchllyn, unig blentyn John a Dorothy Cadwaladr. Ni bu ei rieni erioed yn perthyn i'r Ymneilltuwyr ac nis cyfrifid yn grefyddwyr amlwg - at yr Eglwys Sefydledig y gogwyddent. Yr oedd ef yn 11 oed pan ddaeth Dr. George Lewis yn weinidog i Lanuwchllyn, ac ef a'i derbyniodd yn aelod yn yr Hen Gapel yn 1803. Dechreuodd bregethu yn 1806, a derbyniwyd ef yr un flwyddyn i athrofa Wrecsam. Ar ei draul ei hun yr aethai yno, gan dreulio'r haf gartref ar y fferm. Yr oedd 'Williams o'r Wern' a Michael Jones yn gyd-fyfyrwyr ag ef am ran o'r amser. Ym Mai 1811 urddwyd ef yn olynydd i'r Parch. Hugh Pugh, y Brithdir. 'Yr oedd cylch gweinidogaeth H. Pugh yn cyrhaeddyd o'r Garneddwen i Abermaw, ac o Fwlch Oerddrws i ucheldiroedd y Ganllwyd.' Rhoes Cadwaladr Jones i fyny ofalu am Lanelltyd a'r Cutiau yn 1818 a'r Brithdir a Rhydymain yn 1839, gan gyfyngu ei waith i Ddolgellau ac Islaw'r Dref hyd 1858. Ar ôl hynny hyd ei farwolaeth yn 1867 cydlafuriai â'r Parch. E. Davies, Trawsfynydd, yn Llanelltyd, a chyda'r Parch. R. Ellis, Brithdir, yn Nhabor. Claddwyd ef ym mynwent y Brithdir.

Adnabyddid ef fel 'Yr Hen Olygydd' gan iddo olygu Y Dysgedydd o 1821 hyd 1852. Daeth y rhifyn cyntaf allan yn Nhachwedd 1821 dan yr enw Y Dysgedydd Crefyddol. Ychydig cyn hynny cyhoeddasai bamffled yn dwyn y teitl Amddiffyniad o'r Ymneillduwyr, mewn Llythyr at y Parchedig John Elias; yn cynnwys Sylwadau ar ei Lythyr o Ganmoliaeth i Bregethu Mr. Hurrion ar Brynedigaeth, 1821 (gweler Cofiant J. Jones, Talsarn, 470). Ymddengys i John Elias ymosod ar yr Annibynwyr oherwydd eu daliadau athrawiaethol, a hyn, ond odid, fu'n achlysur cychwyn Y Dysgedydd gan nifer o weinidogion amlwg yr Annibynwyr ac iddynt ddewis Cadwaladr Jones yn olygydd. Daeth y cyfnodolyn yn arbennig yn faes ymryson ar bynciau diwinyddol. Profodd ei hun yn olygydd medrus a doeth; eto, yr oedd yn annibynnol iawn ei feddwl, ac yn bur benderfynol ei ysbryd (gweler 'Ap Vychan,' Cadwaladr Jones , 138). Er mai 'mab ysbrydol' y Dr. George Lewis ydoedd, eto 'daeth yn gefn i Michael Jones ym mrwydr y Sistemau yn y genhedlaeth nesaf' (gweler Jenkins, Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn, 113). Rhyddfrydiaeth a gefnogai mewn gwleidyddiaeth er nad oedd ei ddatganiad yn ddigon pendant gan amryw o'i gyd- Annibynwyr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.