Ganwyd ym mis Mawrth 1788, unig fab yr archddiacon Hugh Owen (1761 - 1827). Cafodd ei addysg yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1810, M.A. 1816). Bu'n gwasnaethu am gyfnod yng nghapel Park Street, Grosvenor Square, Llundain, cyn cael rhoddi iddo (27 Chwefror 1823) ficeriaeth Wellington a rheithoraeth Eyton-upon-the-Wildmoors, Swydd Amwythig; ymddeolodd o'r ddwy fywoliaeth hyn yn 1840. Trafaeliodd lawer ym Mhrydain ac ar gyfandir Ewrop gan wneuthur llu o ddarluniau, ac ysgythru neu droi yn ddarluniau olew, etc., lawer iawn ohonynt wedi hynny. Arddangoswyd rhai o'i ddarluniau - rhai ohonynt o olygfeydd yng Nghymru a'r gororau - yn y British Institution ac orielau eraill yn Llundain, 1839-53. Ceir darluniau o'i waith yn A History of Shrewsbury, 1825; ei dad a J. B. Blakeway oedd cyd-awduron y ddwy gyfrol hyn. Cyhoeddodd Etchings of Ancient Buildings in Shrewsbury (London, 1820-1), Etchings (London, 1826), a The Book of Etching (London, i, 1842; ii, 1855). Cedwir yn Ll.G.C. tua 2,340 o ddarluniau a wnaethpwyd ganddo, amryw ohonynt yn olygfeydd yng Nghymru a'r gororau, c. 1840. Treuliodd yr arlunydd ei flynyddoedd olaf yn Bettws Hall, Sir Drefaldwyn. Bu farw 15 Gorffennaf 1863 yn Cheltenham.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.