mab Pryce Owen, meddyg, Amwythig (' Pryce Owen of Bettws,' Sir Drefaldwyn, medd Richard Williams, Montgomeryshire worthies ), a'i wraig Bridget, merch John Whitfield. Er mai tenau braidd ydyw cysylltiad Owen â Chymru rhaid ei gynnwys yma pe na bai ond am ei fod yn gyd-awdur (â J. B. Blakeway) A History of Shrewsbury, gwaith gwerthfawr mewn dwy gyfrol bedwarplyg, 1825, sydd o ddiddordeb i haneswyr Cymru. Cafodd ei addysg yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt (B.A. 1783, M.A. 1807). Daeth yn ficer S. Julian, Amwythig, 1791, yn brebend yr eglwys gadeiriol, Salisbury, 1803; cafodd hefyd 'gyfran' o ficeriaeth Bampton, swydd Rhydychen, 1819, daeth yn archddiacon Salop 27 Rhagfyr 1821, cafodd brebendiaeth yn eglwys gadeiriol Lichfield, 30 Mawrth 1822 a dilynodd Blakeway yn S. Mary's, Amwythig, yn 1826. Bu farw 23 Rhagfyr 1827.
Mab iddo oedd Edward Pryce Owen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.