Ganwyd 12? Rhagfyr 1813 mewn tŷ (lle y saif capel y M.C. heddiw) yn Lôn-popty, Bangor, mab William ac Ellen Owen. Chwarelwr oedd y tad yn chwarel Cae Braichycafn, Bethesda. Pan oedd tua blwydd oed, symudodd ei rieni i'r Tŷ Hen (bellach dan domen y chwarel) yn ardal Bethesda, ac yn 10 oed dechreuodd y mab weithio yn y chwarel. Symudasant wedyn (ac yntau'n 16) i Cae'r sgubor-wen - tyddyn a ddaeth hefyd i gael ei elw'n ' Cilmelyn '.
Dysgodd gerddoriaeth yn nosbarth Robert Williams ('Cae Aseth'), a gynhelid yn y Carneddi, a chan William Roberts, Tyn-y-maes, awdur y dôn ' Andalusia.' Cyfansoddodd ei dôn gyntaf yn 18 oed, ac ymddangosodd yn Y Drysorfa, Mehefin 1841. Symudodd y teulu o Tŷ Hen yn ôl i Gilmelyn, Bangor, a ffurfiodd William Owen gôr dirwestol a ganodd ' Cwymp Babilon ' o waith yr arweinydd yng nghymanfa ddirwestol Caernarfon, 1849. Yn 1852 gwnaeth ei gyfeillion ym Methesda gyngerdd er ei gynorthwyo i ddwyn allan ei gyfansoddiadau, a'r un flwyddyn dug allan Y Perl Cerddorol yn cynnwys tonau ac anthemau, cysegredig a moesol, a gwerthwyd 3,000. Yn 1886, gwerthwyd 4,000 o argraffiadau sol-ffa. Cyfansoddodd lawer o ddarnau dirwestol, a chanwyd rhai ohonynt yng ngŵyl gerddorol dirwestwyr Eryri yng nghastell Caernarfon. Bu ei anthem, ' Ffynnon Ddisglair,' a'r tonau ' Alma ' a ' Deemster,' yn boblogaidd, ond fe gofir am William Owen fel awdur y dôn ' Bryn Calfaria,' sydd yn aros yn boblogaidd, ac a genir yn Lloegr yn y cywair mwyaf.
Wedi iddo briodi merch y Prysgol, symudodd yno i fyw ar ddymuniad ei dad-yng-nghyfraith, a bu'n flaenor ac arweinydd y canu yng nghapel Methodistiaid Calfinaidd Caeathro tra bu fyw. Bu farw 20 Gorffennaf 1893, a chladdwyd ef ym mynwent capel Caeathro.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.