ROBERTS, WILLIAM ('Wil Brych '; fl. c. 1825), cerddor

Enw: William Roberts
Ffugenw: Wil Brych
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Trigai yn Tynymaes, ger Bethesda, Arfon. Ychydig o'i hanes sydd ar gael. Ostler oedd wrth ei alwedigaeth, a gofalai am geffylau y 'Goets Fawr' a redai rhwng Llundain a Chaergybi. Mynychai ddosbarth cerddorol Robert Williams (Cae Aseth), ac âi gydag ef ar y Suliau i gynnal ysgol Sul yn Nant y Benglog. Ymwelai William Owen, Prysgol, yn fachgen â Thynymaes, a chafodd wersi gan William Roberts. Cyfansoddodd lawer iawn o donau, ond adwaenir ef fel cyfansoddwr y dôn ' Andalusia ' ar yr emyn ' O Dduw rho im Dy hedd,' a fu yn boblogaidd yng Nghymru hyd ddiwedd y ganrif ddiwethaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.