PAGE, JOHN (' Ioan Glan Dyfrdwy '; 1830? - 1852), bardd
Enw: John Page
Ffugenw: Ioan Glan Dyfrdwy
Dyddiad geni: 1830?
Dyddiad marw: 1852
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins
o dras (Seisnig) anadnabyddus, a fagwyd yn y Bala. Yr oedd yn un o bedwar sylfaenydd ' Cymdeithas Lenyddol Penllyn ' (gweler dan Peter, John). Bu farw 17 Mehefin 1852. Cyhoeddwyd llyfryn o'i waith, Briallu Dyfrdwy, yn y Bala, 1852.
Awdur
- Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, (1881 - 1969)
Ffynonellau
-
Adgofion Andronicus (J. W. Jones)
- rhoddir dyddiad ei farw, a'i oedran, gan 'Ioan Pedr,' yn NLW MS 2612, gydag ychydig o'i waith
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q28361198
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/