Mab Alfred Palmer, saer cerbydau, Thetford, a Harriet Catherine, ferch John Neobard, gwerthwr gwinoedd, ydoedd, a ganwyd ef ar 10 Gorffennaf 1847 mewn rhan o Thetford a oedd y pryd hwnnw yn Suffolk ond sydd yn awr yn Norfolk. Aeth i'r ysgol ramadeg leol (1855-60), a bu hefyd mewn academi breifat a gedwid gan Morgan Lloyd, gweinidog gyda'r Annibynwyr, a ddeffrodd ddiddordeb ei ddisgybl mewn gwyddoniaeth (1860-2). Ar ôl cyfnod prawf byr fel disgybl-athro yn swydd Caergrawnt (Ionawr 1863) fe'i rhwymwyd yn brentis yr un flwyddyn i ddrygist yn Bury St. Edmunds; tra bu yno enillodd ysgoloriaethau i wneuthur gwaith ymchwil yng ngweithdai ymchwil y Pharmaceutical Society yn Llundain (Gorffennaf 1866), a bu yn 1873 yn helpu Attwood, yr athro mewn fferylleg, yno. Ym mis Hydref 1874 cafodd ei ddewis yn gemegwr dadansoddi i ffyrm ym Manceinion; ysgrifennodd yno erthyglau i'r Pharmaceutical Journal (1875-9), a phriododd ym Mehefin 1878 ferch John Francis, ' surveyor ' dinas Manceinion, dyn o Sir Gaernarfon a fu'n noddwr i ' Ceiriog ' ac yn arweinydd yng nghylchoedd Gymreig y dref. Dychwelodd i Thetford er lles ei iechyd a chafodd ei gyfarwyddo gan ddyn o Wrecsam y cyfarfuasai ag ef yn Llundain i swydd yn ei faes arbennig ef ei hun yn Wrecsam; a bu yn byw yno o fis Medi 1880 hyd ei farw, yn gwneuthur ei waith mewn busnes diodydd anfeddwol hyd Chwefror 1882; yng ngwaith dur Brymbo, 1882-4; yn y Cambrian Leather Works, 1891-1904; ac ar ei gyfrifoldeb ei hun ar rai prydiau; yr oedd hefyd yn parhau i ysgrifennu erthyglau i gyfnodolion yn ymwneuthur â'i faes arbennig ef ei hun.
Yn 1883 paratodd ddarlith ar gyfer y Wrexham Scientific and Literary Society, a chyhoeddwyd hi yr un flwyddyn o dan y teitl The Town, Fields, and Folk of Wrexham in the time of James I; yr oedd hyn yn arwydd bod y diddordeb mewn agweddau ar hanes lleol a ddeffrowyd ynddo pan oedd yn siarad, yn fachgen ieuanc, â'r hynafiaethydd lleol yn Thetford, yn effro a'i fod yn parhau i geisio darganfod y rheswm paham yr oedd rhannau arbennig o rai tref-ddegymau i'w cael wedi eu datgysylltu oddi wrthynt - ac yr oedd ef yn digwydd bod yn byw mewn rhan ddatgysylltiedig o'r fath. Ymrôdd yn awr i ddysgu Cymraeg ac i ymgydnabyddu â dulliau technegol gwaith ymchwil i hanes, a chyda chymorth y pethau hyn, i ysgrifennu hanes Maelor Gymraeg (os gallai gyflawni'r gorchwyl hwnnw - a dyna oedd ei amcan ar y cyntaf), neu o leiaf hanes Wrecsam a'r gymdogaeth. Yn 1885 cyhoeddodd draethawd - The History of Ancient Tenures of Land in the Marches of North Wales; golygai i hwn fod yn fath o astudiaeth ragbaratoawl, eithr ystyrid ganddo ef ei hun a chan ysgolheigion eraill (megis Frederic Seebohm, a ddaeth yn edmygydd mawr ohono) mai hwn oedd ei brif waith. Ychwanegwyd at y traethawd hwn ac ail-gyhoeddwyd ef yn 1910 gyda chymorth a chydweithrediad Edward Owen. Gan ei fod yn wastad yn ofni y byddai i'w iechyd dorri i lawr, aeth yn ei flaen i gyhoeddi, yn agos at ei gilydd, The History of the Parish Church of Wrexham, 1886; The History of the Older Nonconformity of Wrexham, 1888; The History of the Town of Wrexham, 1893; The History of the [Country] Townships of the Old Parish of Wrexham; cwplawyd yr olaf o'r rhai hyn tua 1900 eithr ni chyhoeddwyd mohono hyd 1903. Ymddangosodd ei History of Gresford yn 1905 a'i History of Holt yn 1910 - yr oedd y ddau waith hyn wedi ymddangos yn gyfresi o erthyglau yn Archæologia Cambrensis, cylchgrawn yr ysgrifennodd ef iddo (fel i'r Cymmrodor ac i Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion) lu o erthyglau (gweler rhestr gan R. G. Smallwood yn y Wrexham Advertizer, 13 Mawrth 1915); golygodd hefyd, gan eu rhoddi yn Llyfrgell Rydd Wrecsam, gasgliad o gopïau o hen gofysgrifau o ddiddordeb lleol sydd i'w chael yn y Public Record Office - arfaethai Palmer i'r casgliad hwn fod y cyntaf mewn cyfres. Yn haf 1889 ymgymerodd â gwaith a roes Seebohm iddo - sef gwneuthur ymchwil i gyfundrefn y ffermydd bychain ('crofts') yn ynysoedd gorllewinol Ysgotland. Ond yr oedd cyflwr ei iechyd a'i amgylchiadau ariannol yn peri pryder iddo yn wastad - yn enwedig felly ar ôl bron bob llyfr a gyhoeddodd (a'i amgylchiadau ariannol mewn modd arbennig yn gwaethygu ar ôl iddo gyhoeddi, 1897, Owen Tanat, nofel aflwyddiannus), eithr daeth pethau yn well wedi iddo gael arian a adawyd iddo yn ewyllysiau aelodau ei deulu (1892 a 1894) a grantiau o'r Civil List a wnaethpwyd iddo (yn bennaf trwy i Edward Owen, gyda chymorth rhai gwŷr pwysig eraill, symud yn y mater) yn 1904 a 1908; o hyn ymlaen gallai fyw heb weithio amser llawn, a bu ei ddewis yn swyddog ymchwil cynorthwyol o dan y ' Royal Commission on Ancient Monuments ' yn 1910 yn foddion i wella ei iechyd ar adeg pan oedd ei olwg yn dechrau pallu ac yntau'n teimlo bod gwaith ar lawysgrifau yn amhosibl a'i fod felly yn methu cwpláu ei ' History of Ruabon Parish ' y cychwynasai arno yn 1909 ond na chwplaodd mohono byth. Cyn ei farw yr oedd wedi archwilio olion hynafiaeth yn siroedd Dinbych a Fflint bron i gyd ac wedi dechrau gweithio ar rai Sir Feirionnydd; o 1907 ymlaen bu'n cymryd rhan bwysig yn y gwaith o durio am olion Rhufeinig yn Holt - yr oedd, yn wir, wedi gwneuthur awgrym ynglŷn â hyn yn nechrau ei gyfraniad ar Holt yn Archæologia Cambrensis y flwyddyn honno.
Er na chymerai ran mewn bywyd cyhoeddus, yr oedd ganddo syniadau pendant, o natur ryddfrydol, ar grefydd a gwleidyddiaeth. Ei awydd am wneuthur rhywbeth i atal yr hyn a alwai ef ' the scandalous invasion of the rights of the poor ' ynglŷn â thir comin a oedd yn cyfrif i raddau helaeth am y dystiolaeth a roes gerbron y comisiwn brenhinol ar y tir yng Nghymru yn 1893 - bu'n ysgrifennu ar yr un pwnc yn y Wasg leol hefyd. Fe'i dygwyd i fyny yn Wesle a bu'n bregethwr lleyg yn ei ieuenctid, eithr ymunodd â'r Undodwyr yn 1873; o hynny ymlaen ni chaniatâi ei argyhoeddiadau crefyddol newydd (a glynodd wrth y rhain hyd y diwedd) iddo gydaddoli ag unrhyw gorff trindodol, oddieithr mewn addoliad cyhoeddus, hyd nes iddo yn 1900 gynorthwyo i sefydlu capel newydd (a byrhoedlog) gyda gweithred ymddiriedolwyr 'rydd' yn perthyn iddo. Y mae ei ddyddiadur personol, a ysgrifennai ar brydiau o tua 1892 ymlaen, ac sydd yn awr yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn dangos ei fod yn ŵr llednais a defosiynol ei ysbryd, o gydwybod gref a nerthol; yr oedd hefyd o ysbryd caredig tuag at ei gyd-ddynion a chanddo farn beirniad - a pharodd y rhinweddau hyn, ochr yn ochr â'i ddawn ymchwil, iddo gael ei ddodi yn rheng flaenaf haneswyr lleol. Bu farw 6 Mawrth 1915, ac fe'i coffeir mewn tabled ar fur a darlun 'bas-relief' arno yn Llyfrgell Rydd Wrecsam.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.