Ganwyd 23 Tachwedd 1833 yn Bradford, a bu farw 6 Chwefror 1912 yn Hitchin - am fanylion eraill ei yrfa a'i waith, gweler D.N.B., 1912-21. Caiff le yn y gyfrol hon yn herwydd ei ymchwiliadau pwysig i hanes y 'gyfundrefn genhedlig' yng Nghymru gynt, a gyhoeddwyd yn ei lyfr enwog The Tribal System in Wales, 1895. Fel popeth a sgrifennodd Seebohm erioed, y mae hwn yn llyfr darllenadwy dros ben - yn wyrthiol felly a chofio 'sychder' ei bwnc. Erbyn heddiw (gweler e.e. ymdriniaeth T. P. Ellis) gwelir i Seebohm roi gormod pwys ar swydd y 'pencenedl' yn y cyfreithiau Cymreig - agwedd 'batriarchaidd' (fel y credai ef) yr hen fywyd cymdeithasol yng Nghymru. Ni lwyddodd chwaith i ddelio'n foddhaol â dadfeiliad a thrawsnewidiad yr hen drefn gymdeithasol. Ar gyfrif ei safle fel awdurdod ar hanes cynnar tir-ddaliad yng Nghymru, penodwyd Seebohm yn aelod o'r comisiwn brenhinol ar bwnc y tir yng Nghymru (1893); ei waith ef yw'r rhan fwyaf o'r nawfed bennod yn y llyfr The Welsh People, 1906, gan John Rhys a David Brynmor Jones, a seiliwyd ar ymchwiliadau'r comisiwn hwnnw. Gweler hefyd ei ysgrif yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1895-6.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.