Ganwyd yn 1794 yn Llan-gan, ger yr Hen-dŷ-gwyn-ar-Daf, Sir Gaerfyrddin, mab Dafydd Parry a Dorothy ei wraig. Cafodd ei addysg yn Ystrad Meurig ac ysgol ramadeg Gaerfyrddin, ac urddwyd ef yn ddiacon, Mawrth 1818, gan yr esgob Burgess o Dyddewi. Trwyddedwyd ef yn gurad i blwyf Crinow, ger Arberth, ac yn Ebrill 1819 i Landisilio ger Clunderwen hefyd. Derbyniodd urddau offeiriad ym Mehefin 1819, ac yn Nhachwedd 1821 codwyd ef yn ficer Llywel, ger Trecastell, sir Frycheiniog; bu yno am dros 40 mlynedd. Ym Mai 1862 penodwyd ef yn ficer Defynnog ac Ystradfellte, a bu farw yn ei swydd yn Defynnog, 22 Hydref 1877. Yno mae ei fedd a bedd ei wraig Mary, merch David Herbert. Yr oedd Parry yn offeiriad plwyf ymroddgar ac un o bregethwyr gorau ei gyfnod. Rhoddwyd iddo'r enw ' Y Gloch Arian.' Casglwyd arian er cof amdano i sefydlu ysgoloriaeth yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, ac y mae darlun ohono yn festri eglwys Defynnog.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/