Ganwyd 29 Mehefin 1770 mewn fferm o'r enw Y Wern, ger Llanelian, sir Ddinbych. Ef efallai yw'r John Parry, mab Edward a Catherine Parry, y nodir ei fedyddio ar 31 Awst 1770 yng nghopïau cofrestri plwyf Llanelian. Derbyniodd addysg dda, fel y mae'n amlwg oddi wrth ansawdd ei farddoniaeth. Pan oedd yn 28 oed, priododd ag Elsbeth Huws, Ffermnant, Llanelian, ac ar un adeg cadwai ef a'i wraig westy yn y pentref. Bu farw 25 Mehefin 1820, a chladdwyd ef ar y 28 o'r un mis ym mynwent y plwyf. Cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth, o natur grefyddol gan mwyaf, ac yr oedd yn enwog am ei atebion ffraeth. Ceir detholiad o'i weithiau yn Y Wenynen Bach a olygwyd gan Robert Humphreys (ail arg., Llanrwst, 1840). Ei gân fwyaf adnabyddus yw ' Myfyrdod Mewn Mynwent,' cerdd nid annhebyg mewn mannau i ' Elegy written in a Country Church-yard ' Thomas Gray.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.