Fe wnaethoch chi chwilio am *

Canlyniadau

PARRY, ABEL JONES (1833 - 1911), pregethwr, diwinydd, a llenor

Enw: Abel Jones Parry
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1911
Rhiant: Susie Parry
Rhiant: Thomas Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr, diwinydd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Tom Ellis Jones

Ganwyd 21 Tachwedd 1833 yn y Temperance Bach, y Rhyl, yn fab i Thomas a Susie Parry. Symudodd y teulu i Abergele ac yna i Lerpwl, lle yr ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd, ond troes yn fuan wedyn at y Bedyddwyr. Dechreuodd bregethu yn 1854 a derbyniwyd ef i athrofa Pontypŵl. Ordeiniwyd ef yn olynydd i'r Dr. Ellis Evans yn Seion, Cefnmawr, yn 1858, ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf coleg Llangollen. Symudodd i Great Cross Street, Lerpwl, yn 1867, ac oddi yno at y Saeson i Cloughfold (Rossendale) yn 1871. Yn 1877 galwyd ef i fod yn olynydd R. A. Jones ym Methesda, Abertawe. Symudodd i Gaernarfon yn 1885 i gymryd gofal o'r Genedl Gymreig, eithr ymsefydlodd drachefn yn eglwys Saesneg Caerfyrddin yn 1885, a dychwelodd i'w faes cyntaf yng Nghefnmawr yn 1888. Ymddeolodd yn 1893 ac aeth i fyw i'r Rhyl. Pregethodd yn gyson hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farw yn 1911. Bu'n briod ddwywaith. Ef oedd llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1896. Dylanwadodd yn drwm ar bregethu ei enwad gan iddo gynnal ysgol i bregethwyr ieuainc yn y Cefnmawr. Yr oedd ei bregethau ef ei hunan yn gelfydd. Bu'n olygydd Y Greal, Y Genedl Gymreig, a Cenhadydd Cwmtawe; a brithir y cyfnodolion â'i ysgrifau. Ei brif waith oedd ei esboniad galluog ar yr epistol at y Rhufeiniaid, 1896. Bu farw 26 Gorffennaf 1911, a chladdwyd ef yn y Rhyl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.