Mab i Henry ap David, Llaneurgain, Sir y Fflint, oedd Parry, mwy na thebyg. I ddianc rhag ei ofynwyr gwasnaethodd Burghley fel ysbïwr ar y Pabyddion, a chroesodd i'r Cyfandir yn 1571, 1579, a 1582. Daeth ef ei hun i gydymdeimlo â Chatholigiaeth, ac argyhoeddwyd ef fod yn rhaid lladd Elisabeth. Datguddiodd un o'i gyd-gynllwynwyr fod Parry yn ymhel â chynllwyn yn ei herbyn wedi iddi gondemnio mesur yn erbyn y Jesiwitiaid, yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1584. Dyfarnwyd ef yn euog, ac fe'i dienyddiwyd, 2 Mawrth 1585. Amheuir a oedd ef yn euog, ac yn fwy fyth a oedd yn ddigon penderfynol a galluog i gario allan ei gynllwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.