PARRY, WILLIAM (1754 - 1819), gweinidog ac athro Annibynnol, ac awdur

Enw: William Parry
Dyddiad geni: 1754
Dyddiad marw: 1819
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog ac athro Annibynnol, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 25 Tachwedd 1754 yn y Fenni, yn fab i ddiacon gyda'r Bedyddwyr yno. Symudodd y teulu i Lundain yn ei blentyndod ef. Yn 1774, ymunodd â'r Annibynwyr, ac aeth i academi Homerton. Bu'n weinidog yn Essex o 1780 hyd 1799, yn effro gyda chynlluniau i wella amgylchiadau gweinidogion y parthau hynny, a chyda'r mudiad (aneffeithiol ar y pryd) i ddiddymu'r cyfyngiadau cyfreithiol ar yr Anghydffurfwyr. Yn 1799, penodwyd ef yn athro yn academi Coward, yn ei chartref newydd yn Wymondley (Herts). Bu mewn dadl ddiwinyddol yn erbyn syniadau'r Dr. Edward Williams yn 1808. Bu farw 9 Ionawr 1819. Y mae rhestr o'i weithiau yn yr ysgrif arno yn y D.N.B. y crynhowyd y nodyn presennol ohoni.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.