PAYNE, HENRY THOMAS (1759 - 1832), clerigwr a hanesydd eglwysig

Enw: Henry Thomas Payne
Dyddiad geni: 1759
Dyddiad marw: 1832
Rhiant: Thomas Payne
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hanesydd eglwysig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: William Llewelyn Davies

Bedyddiwyd 30 Tachwedd 1759 yn Llangattock, sir Frycheiniog, mab Thomas Payne, rheithor Llangattock o 1757 hyd 1798 a chanon trigiannol yn eglwys gadeiriol Wells. Cafodd ei addysg yn Rhydychen (ymaelodi, o Worcester College, Chwefror 1777, B.A. o Balliol College 1780, M.A. 1784). Ordeiniwyd ef yn ddiacon, 18 Mai 1783, yn Westminster, ac yn offeiriad, 19 Medi 1784, yn Abergwili, a daeth yn gurad yn Llanelli, sir Frycheiniog. Cafodd reithoraeth Llanbedr a Patricio, 31 Awst 1793, a ficeriaeth Defynnog, 13 Awst 1799; daeth yn brebend Llanbedr Painscastle neu Bochroyd (Boughrood), 8 Mehefin 1799, yn ganon yn eglwys gadeiriol Tyddewi, Gorffennaf 1810, yn brebend trigiannol yno, Gorffennaf 1814, a'i sefydlu yn archddiacon Caerfyrddin, 19 Mehefin 1829. Dywed Foster (Alumni Oxonienses) iddo gael ei ethol yn ficer Ystradfellte yn 1789, eithr nid oes dystiolaeth o hyn yn nogfennau'r Eglwys yng Nghymru. Bu farw 22 Ebrill 1832 yng Nghrughywel.

Cedwir rhan helaethaf ffrwyth ymchwil Payne i hanes esgobaeth Tyddewi mewn dwy gyfrol lawysgrif a alwyd ganddo yn 'Collectanea Menevensia ' (SD/Ch/B27 a SD/Ch/B28 yn awr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ymhlith dogfennau cabidyldy Tyddewi). Yn y rhain ceir ffrwyth ei astudiaeth i stadudau Tyddewi; gyda hwy dylid astudio cyfrol lawysgrif arall o'i eiddo, sef adroddiad a gyflwynodd i gantor a chabidwl Tyddewi ar 17 Mehefin 1830. Ceir profion (yn Ll.G.C.) i Theophilus Jones gael cymorth sylweddol iawn ganddo pan oedd yn paratoi ei History of Brecknockshire; am fanylion gweler yr erthygl gan B. G. Owens a nodir isod. Teitl llawysgrif arall ganddo (NLW MS 4278C ) ydyw 'A Parochial Visitation of the Deanery of the Third Part of Brecon, … 1785.') Y mae llawysgrifau eraill ganddo (hwythau hefyd yn Ll.G.C.) sydd yn dangos ei ddiddordeb yn hanes cynnar a hynafiaethau Prydain, gan gynnwys hanes crefydd gynnar. Mewn llawysgrif arall ceir ' … familiar phrases In the English and Welsh languages ….' Copïau ydyw NLW MS 6258C a NLW MS 6259C o ddau lyfr gan Edward Davies ('Celtic Davies'), sef Celtic Researches a Mythology … of the British Druids, gyda nodiadau yn y ddau waith yn llawysgrifen Payne (gweler hefyd NLW MS 6467D ). Bu Cwrtmawr MS 101C a Cwrtmawr MS 941C hefyd yn eiddo iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.