Ganwyd yn nhre'r Fflint yn 1723 (bedyddiwyd 16 Awst), yn fab i Benjamin Perryn, masnachwr yn y dref. O ysgol Rhuthyn (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 132) aeth i'r Queen's College yn Rhydychen, fis Mawrth 1740/1, ond ni raddiodd. Eisoes (1740) yr oedd wedi ymaelodi yn Lincoln's Inn, ond symudodd i'r Inner Temple yn 1746, a galwyd ef i'r Bar yn 1747. Tyfodd yn ddadleuydd o fri mawr yn llys y Siawnsri. Yn 1770 penodwyd ef yn ddirprwy-siambrlen Caerlleon Fawr (Williams, Welsh Judges, 77), ac yn 1776 dyrchafwyd ef i fainc y Trysorlys, a'i urddo'n farchog. Ymddeolodd yn 1799, a bu farw 2 Ionawr 1803. Y mae ysgrif arno yn y D.N.B.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.