PHILLIPS, EVAN (1829 - 1912), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Evan Phillips
Dyddiad geni: 1829
Dyddiad marw: 1912
Priod: Anne Phillips (née Jones)
Plentyn: John Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Beynon

Ganwyd 22 Hydref 1829 mewn bwthyn o'r enw Milestone yn ardal Capel y Drindod. Yr oedd ei fam yn ferch i gefnder Christmas Evans. Dechreuodd bregethu yn eglwys Capel y Drindod pan oedd ychydig dros 20 oed. Treuliodd ddwy flynedd yn ysgol Atpar, Castellnewydd Emlyn, ac yn 1853 derbyniwyd ef i Goleg Trefeca. Yn nechrau hydref 1859 priododd Anne Jones, o deulu Cwrcoed, ger Penrhiwllan. Wedi rhai misoedd fel gofalwr am y seiadau yn Llannon symudodd i fyw i Gastellnewydd Emlyn; ordeiniwyd ef yng Nghastell Nedd yn Awst 1860; yn yr un flwyddyn derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Bethel, Castellnewydd Emlyn, ac fel gweinidog Bethel y treuliodd weddill ei oes. Etholwyd ef yn llywydd ei gymdeithasfa yn 1889, ac yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1899. Yr oedd yn un o bregethwyr mawr ei oes. Oherwydd newydd-deb a disgleirdeb ei ddrychfeddyliau, naturioldeb ei ddarluniau, ynghyd â melyster ei ddawn, enillodd ' y pregethwr ugain munud ' le arbennig iddo'i hun. Nodweddid ei bregethau gan gyfuniad o ddychymyg y bardd, treiddgarwch yr athronydd, a thanbeidrwydd yr efengylydd. Bu farw 29 Medi 1912.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.