PHILLIPS, Syr THOMAS (1801 - 1867), bargyfreithiwr ac awdur

Enw: Thomas Phillips
Dyddiad geni: 1801
Dyddiad marw: 1867
Rhiant: Anne Phillips
Rhiant: Thomas Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Williams

Ganwyd yn 1801 yn Ynysgarth, Clydach, plwyf Llanelli, sir Frycheiniog, mab Thomas ac Anne Phillips. Pan oedd y mab yn ieuanc symudodd y teulu i'r Trosnant, gerllaw Pontypŵl. Rhwymwyd ef gyda Thomas Prothero, cyfreithiwr yng Nghasnewydd-ar-Wysg, ac ymhen amser daeth yn bartner iddo. Cymerodd y ddau ran weithgar mewn materion lleol adeg y Reform Act, ac yn 1838 daeth Phillips yn faer Casnewydd. Tua diwedd ei dymor fel maer, sef ar 4 Tachwedd 1839, y digwyddodd cyrch y Siartwyr ar Gasnewydd. Clwyfwyd Phillips yn y terfysg a fu y tu allan i'r Westgate Hotel. Ar ôl hynny cafodd ei anrhydeddu mewn gwahanol ffyrdd am yr hyn a wnaeth i orchfygu'r Siartwyr - ei wneuthur yn farchog a'i wahodd i giniawa gyda'r frenhines, tysteb o £800, a rhyddfreiniad dinas Llundain (26 Chwefror 1840). Rhoes ei bartneriaeth gyda Prothero i fyny, gan ddyfod yn fargyfreithiwr ar 10 Mehefin 1842. Cafodd yrfa hynod o lwyddiannus fel bargyfreithiwr yn arbenigo yng ngwaith Llys y Siansri; daeth hefyd yn berchen pyllau glo. Yn ddiweddarach ar ei fywyd bu'n byw yn Llanellen, gerllaw y Fenni. Ni bu yn briod. Bu farw yn Llundain 26 Mai 1867, a'i gladdu yn Llanellen.

Bu Phillips yn weithgar ym myd addysg - fel un o lywodraethwyr King's College, Llundain, a hefyd yn hyrwyddo gwaith y National Schools Society; rhoes lawer o'i arian ei hunan tuag at hyrwyddo ffyniant addysg. Treuliodd lawer o'i amser a llafuriodd yn galed i gasglu defnyddiau er mwyn gwrthateb ensyniadau comisiynwyr yr ymchwil i gyflwr addysg yng Nghymru, 1846, a'r gofadail bennaf i'w enwogrwydd ydyw ei lyfr rhagorol - Wales, the Language, Social Condition, Moral Character, and Religious Opinions of the People considered in their relation to Education, 1849. Ysgrifennodd hefyd gofiant mwyaf hoffus i James Davies, y pedler a'r ysgolfeistr diddorol hwnnw yn Devauden - The Life of James Davies, a Village Schoolmaster, 1850.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.