PHILLIPS, THOMAS (1806-1870), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yng Nghymru

Enw: Thomas Phillips
Dyddiad geni: 1806
Dyddiad marw: 1870
Plentyn: Thomas Lloyd Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yng Nghymru
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 15 Mawrth 1806 yn Llanymddyfri. Effeithiwyd arno gan ddiwygiad 1819, a dechreuodd bregethu yn 1821, gan fwriadu mynd i'r genhadaeth dramor, ond yn 1825, ar fin mynd i Goleg Cheshunt i'w baratoi, gofynnwyd iddo ymgymryd â chenhadaeth dros y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gelli (Hay), a bu yno am 10 mlynedd yn cenhadu ac yn cadw ysgol. Ddechrau 1836, penodwyd ef yn ysgrifennydd dros Gymru i Gymdeithas y Beiblau, a symudodd i dref Henffordd. Bu'n hynod lwyddiannus fel ysgrifennydd, ac ar adeg ei farw ef oedd swyddog hynaf y gymdeithas; arno ef, yn 1853, y rhoddwyd gofal dathliad ei jiwbili - ar yr achlysur hwnnw y cyhoeddodd Llyfr y Jubili, 1854. Cyhoeddodd hefyd gatecism ar Babyddiaeth, a aeth drwy sawl argraffiad, a The Welsh Revival, 1860. Yr oedd yn drefnydd medrus; cymerth ran flaenllaw yng nghychwyniad cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd, ac ef oedd ei hail lywydd (1865). Bu farw yn Henffordd, 28 Hydref 1870. Y mae cofiant Saesneg iddo, a gyfieithwyd yn 1871, ac ysgrif lawn yn Y Gwyddoniadur, y seiliwyd y nodyn hwn arni; gweler hefyd Cardiff Catalogue.

Mab hynaf iddo oedd

THOMAS LLOYD PHILLIPS (1832 - 1900), offeiriad ac athro ysgol

Fe'i prentisiwyd i Thomas Gee a cyhoeddodd, 1856, Llawiadur i'r Iaith Seisonig; cafodd urddau yn Eglwys Loegr yn 1859, a graddiodd o Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1866; cadwai ysgol yn Beckenham (Foster, Alumni Oxonienses; Asaph).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.