PHILLIPS, THOMAS (1868 - 1936), gweinidog a phrifathro gyda'r Bedyddwyr

Enw: Thomas Phillips
Dyddiad geni: 1868
Dyddiad marw: 1936
Priod: Anne Mary Phillips (née Saunders)
Priod: Martha Phillips (née John)
Rhiant: Phoebe Phillips
Rhiant: Levi Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog a phrifathro gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: David Williams

Ganwyd 5 Ionawr 1868 yn Lan, plwyf Llanycefn, Sir Benfro, mab Levi a Phoebe Phillips. Yr oedd yn aelod o eglwys hanesyddol y Bedyddwyr yn Rhydwilym. Bu'n ddisgybl-athro yn yr Hen-dŷ-gwyn-ar-Daf, eithr yn 1886 aeth i goleg y Bedyddwyr, Llangollen, a'i fryd ar y weinidogaeth. Ddwy flynedd yn ddiweddarach enillodd ysgoloriaeth i Goleg y Gogledd, Bangor. Yno bu'n ddisgybl Henry Jones, a graddiodd gydag anrhydedd mewn athroniaeth ym Mhrifysgol Llundain (1890). Bu'n gweinidogaethu 'n olynol yn Kettering a Norwich hyd y bu iddo gymryd gofal y ' Baptist Institutional Church ' yn Bloomsbury, Llundain, yn 1905. Yno tynnodd ei waith cymdeithasol sylw mawr; fe'i profodd ei hun yn bregethwr yr oedd iddo dalent y tu allan i'r cyffredin. Uchafbwynt ei yrfa fel pregethwr oedd ei bregeth i gynhadledd Bedyddwyr y Byd yn Philadelphia yn 1911. Daeth yn brifathro Coleg y Bedyddwyr, Caerdydd, yn 1928, a bu yno hyd ei farwolaeth, 21 Ebrill 1936. Yn 1916 gwnaethpwyd ef yn llywydd Undeb y Bedyddwyr (Prydeinig); yn 1928 rhoes Prifysgol McMaster (Toronto) y radd o ddoethur mewn diwinyddiaeth iddo. Bu'n briod ddwywaith - (1), 1892, gyda Martha John, Tŷ-gwyn-ar-Daf (bu hi farw yn 1932) - ganwyd saith plentyn o'r briodas hon, a (2), 1934, Anne Mary Saunders.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.